Prosiect parhaol yw Lluniau Wrecsam i greu casgliad o ddelweddau digidol o ddeunydd Gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam, a’u gweld eu bod ar gael i’r cyhoedd. Mae’r eitemau gwreiddiol yn unigryw. Trwy eu digideiddio mae’n lleihau’r draul ac yn helpu eu cadw i’r cenedlaethau a ddaw. Mae hefyd yn eu gwneud yn fwy hygyrch trwy fod defnyddwyr o bob rhan o’r byd yn gallu edrych ar y deunydd ar-lein.
Ar hyn o bryd mae 500 o ddelweddau perthnasol i Fwrdeistref Sirol Wrecsam y gallwch eu gweld a’u lawrlwytho at ddefnydd personol. Gallwch archebu printiau ansawdd ffotograff ar-lein.
Cynorthwywyd y prosiect hwn gyda grant oddi wrth CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a rhodd gan Gyfeillion Archifau Clwyd.