Gallwch lawrlwytho delweddau bras yn ddi-dâl at ddefnydd personol yn unig. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio delwedd i’w gyhoeddi neu at ddefnydd masnachol rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf. Cysylltwch â ni ar 01978 317973 neu E-bost archives@wrecsam.gov.uk
Gellir archebu ffotograffau o safon uchel yn uniongyrchol oddi ar y wefan neu drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu y gellir ei hargraffu ar y ddesg dalu.
| Maint yn Fras |
Pris |
| 10 x 8 modfedd (25cm x 20cm) |
£8.00 |
Gallwch archebu printiau mwy trwy drefniant. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Sylwch: Bydd printiau’n cael eu hatgynhyrchu mor agos ag y bo modd at y ddelwedd wreiddiol. Mae’r holl brisiau’n cynnwys TAW.
Gallwch archebu printiau trwy bori’r gronfa ddata a rhoi eitemau yn eich basged siopa. Wedi i chi orffen siopa, gallwch adolygu’r eitemau yn eich basged a symud ymlaen i’r ffurflen archebu. Gallwch naill ai argraffu’r ffurflen archebu a’i hanfon gyda Siec neu Archeb Bost neu archebu’n ddiogel ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
Mae pob archeb yn destun cost dosbarthu fel y dangosir isod. Dosberthir o fewn 14 diwrnod.
| |
Y DU |
Tramor |
| Tâl cludiant ar hyd at 10 delwedd |
£2.50 |
£4.00 |
Polisi Preifatrwydd
Rydym yn ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Caiff holl wybodaeth bersonol ei chasglu a’i chadw yn unol â Deddf Gwarchod Data.
House of Images, yn hytrach na Gwasanaeth Archifau ac Astudiaethau Lleol Wrecsam, sy’n prosesu’r holl archebion. Gwelwch Cysylltu â ni i gael manylion.